HSC(6)-02-22 PTN 18

Eluned MorganAS/MS

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Minister for Health and Social Services

 

 

Russell GeorgeMS

Y PwyllgorIechyd a Gofal Cymdeithasol Senedd Cymru

Caerdydd CF99 1SN

 

24 Awst 2022

Annwyl Russell,

 

Diolch am eich llythyrdyddiedig 8 Gorffennaf ar ran y Pwyllgor Iechyda Gofal Cymdeithasol ynghylch cynnydd yn erbyn argymhellion y Pwyllgor yn 2019 ar gyfer gwasanaethau endosgopi yng Nghymru.

 

Rydych wedi gofyn am ddiweddariadau ar sawl pwynt penodol. Rwyf wedi nodi fy ymateb yn ôl rhifau eich cwestiynau chi ond rwyf wedi newid trefn yr is-bwyntiau er mwyn hwyluso'r esboniad.

Text Box: 1. A allwch chi roi diweddariad ar gynnydd o ran rhoi’r cynllun gweithredu endosgopi cenedlaethol ar waith, gan gynnwys:
 
 a. Y sefyllfa bresennol ar gyfer optimeiddio’r rhaglen sgrinio canser y coluddyn (h.y. ar gyfer cynyddu sensitifrwydd FIT a phrofion oedran) a sut mae hyn yn cymharu â rhannau eraill o'r DU.
 
 b. A yw newidiadau yn y rhaglen hyd yma wedi cynyddu atgyfeiriadau ar gyfer triniaethau endosgopig.
 
 d. Ymdrechion i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, yn enwedig cynyddu nifer y dynion mewn ardaloedd difreintiedig sy’n manteisio ar wasanaethau.

 

Rwy'n gobeithio nad oes gwahaniaeth gan y Pwyllgor fy mod yn cyfeirio at ein hymatebion blaenorol a'r Cynllun Gweithredu Endosgopi Cenedlaethol, sy'n esbonio nad yw optimeiddio'r Rhaglen SgrinioColuddion yn rhan o'r CynllunGweithredu na gwaithBwrdd y Rhaglen Endosgopi Genedlaethol.

 

 

 

 

 

 


 

Bae Caerdydd• Cardiff Bay

Caerdydd • Cardiff

CF99 1SN


Canolfan CyswlltCyntaf / First Point of Contact Centre:

0300 0604400

Gohebiaeth.Eluned.Morgan@llyw.cymru Correspondence.Eluned.Morgan@gov.wales


 

Rydym yn croesawu derbyngohebiaeth yn Gymraeg.Byddwn yn ateb gohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg yn Gymraeg ac ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

 

We welcomereceiving correspondence in Welsh. Any correspondence receivedin Welsh will be answeredin Welsh and corresponding in Welsh will not lead to a delay in responding.


O dan y Rhaglen Sgrinio Coluddion, anfonir pecyn Prawf Imiwnocemegol ar Ysgarthion ("FIT") i gyfeiriad cartref person heb unrhyw symptomau hysbys o ganser y coluddyn.Mae'r person yn cymryd sampl ei hun ac yn ei ddychwelyd.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn anfon y pecynnau profi hyn i'r boblogaeth gymwys ac yna'n mesur faint o waed sydd i'w ganfod yn y sampl a ddychwelir. Dyma'r prawf sgrinio cyntaf. Mae'r bobl hynny sy’n cael canlyniad positif yn cael eu hatgyfeirio wedyn at fyrddau iechyd i gael colonosgopi. Y cyfan y mae optimeiddio'r rhaglen sgrinio coluddion yn cyfeirio ato yw cyflwyno FIT fel y prawf sgrinio cychwynnol i ddisodli'r prawf Gwaed Cudd yn yr Ysgarthion (“FOB”); newidiadau i ystod oedran y rhai a wahoddir i gymryd rhan yn y rhaglen; a newidiadau i sensitifrwydd y prawf FIT sy'n cael ei anfon at bobl yn yr ystodau oedran hynny.

 

Goruchwylir optimeiddio'r rhaglen sgrinio coluddion gan Fwrdd Cynghori Optimeiddio Sgrinio Coluddion. Fe gyflwynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y prawf FIT mwy cywir a haws ei ddefnyddio ym mis Medi 2019. Yna bu'n rhaid diwygio'r amserlenni ar gyfer y cynllun optimeiddio wrth i'r pandemig arwain at atal sgrinio dros dro ac ôl-groniad o weithgarwch sgrinio i'w gyflawni. O ganlyniad, ni ddechreuodd cam optimeiddio yn ôl oedran y rhaglen tan Hydref 2021, pan ostyngwyd yr oedran cychwyn o 60 i 58. Mae disgwyl i'r optimeiddio yn ôl oedran barhau'n raddol: gostwng i 55 oed o Hydref 2022; 52 oed o Hydref 2023; ac yna 50 oed o Hydref 2024. Ochr yn ochr â hyn, bydd sensitifrwydd y prawf yn cael ei gynyddu'n raddol: o 150μg/g i 120μg/g ym mis Hydref 2023 ac yna i 80μg/g ym mis Hydref 2024. Bydd hyn yn cwblhau'roptimeiddio ac yn sicrhau bod y rhaglensgrinio yn cyd-fyndag argymhellion Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU. Nid fy lle i yw sôn am sefyllfa a chynnydd gwledydd eraill ledled y DU o ran cydymffurfio ag argymhellion Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU. Ni allaf ond amlinellu'r hyn y mae'r GIG yng Nghymru wedi bwriadu ei gyflawni, gan ystyried ein hamgylchiadau ein hunain.

 

Mae'r cynnydd presennol gydag optimeiddio wedi cyfrannu at gynnydd mewn cyfranogiad yn yrhaglen. Mae'r gyfraddcyfranogiad wedi cynydduo tua 56% cyn dechrau optimeiddio, i tua 66% dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r rhaglen felly bellach yn cwrdd â'r safon cyfranogiad o 60%. Yn ogystal â mwy o bobl yn cymryd rhan, mae'r prawf newydd yn canfod rhagor o achosion positifar gyfer colonosgopi. Ar y cyd, mae hyn wedi cynyddu nifer y colonosgopïau mynegai, ailadrodd a gwyliadwriaeth sydd eu hangen. Disgwylir i'r nifer gynyddu o gyfanswm o 3,462 o golonosgopïau rhwng Hydref 2020 a Medi 2021 (y flwyddyn gyfan ddiwethaf cyn dechrau'r broses optimeiddio yn ôl oedran), i tua 4,600 rhwng Hydref 2021 a Medi 2022 (cam cyntaf yr optimeiddio yn ôl oedran) ac yna hyd at tua 6,900 rhwng Hydref 2022 a Medi 2023 (ail gam yr optimeiddio yn ôl oedran).

 

O ran cynyddu'r gyfradd sy'n manteisio ar y prawf sgrinio ymysg dynion mewn ardaloedd difreintiedig, ar draws y rhaglenni sgrinio cenedlaethol yng Nghymru, y nod yw bod gan bawb sy'n gymwysi gael eu sgrinio fynediada chyfle teg i fanteisio ar eu cynnig sgrinio, gan ddefnyddio gwybodaeth ddibynadwy i wneud dewis gwybodus personol. Er bod y nifer sy'n cymryd rhan mewn sgrinio'r coluddyn yn fwy nag y bu erioed, dangoswyd bod graddiant cymdeithasol yn y nifer sy'n manteisio ar sgrinio ac mae pobl sy'n byw yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn llai tebygol o fanteisio ar eu cynnig sgrinio. Hefyd, er bod y bwlch yn fach, mae dynion yn llai tebygol o gymryd rhan na menywod. Mae pwysigrwydd sicrhau bod pobl yn manteisio ar eu cynnig cyntaf o sgrinio wedi cael ei ddangos, gan fod y nifer sy'n cymryd rhan ymysg pobl sydd heb ymateb o'r blaen yn isel iawn. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu Strategaeth Tegwch, gyda chamau ar draws 5 maes allweddol: Cyfathrebu, Cymuned ac Ymgysylltu, Cydweithredu, Darparu Gwasanaethau a Data a Monitro. Mae camau gweithredu penodol yn cynnwys adolygu eu gwybodaeth gyhoeddus er mwyn sicrhau ei bod yn hygyrch i bobl sydd ag anghenion cyfathrebu gwahanol a lefelau llythrennedd iechyd gwahanol, adeiladu rhwydweithiau a phartneriaethau cymunedol cynaliadwy, ac archwilio sut y gallant ddefnyddio eu data yn well i gefnogi camau gweithredu a mesur effaith.

 

Yn ddiweddar, mae'r rhaglen sgriniocoluddion wedi gwneudgwaith gydag AnableddDysgu Cymru, ac mae ar fin cychwyn ar waith gyda chlystyrau meddyg teulu penodol yn edrych ar ffyrdd arloesol o gysylltu â'r rhai sy'n cael gwahoddiad sgrinio am y tro cyntaf a phobl nad ydynt wedi ymateb i'r gwahoddiad mewn cymunedau penodol.

Text Box: 1. A allwch chi roi diweddariad ar gynnydd o ran rhoi’r cynllun gweithredu endosgopi cenedlaethol ar waith, gan gynnwys:
 
 c. Diweddariad ar y cynlluniau ar gyfer cyflwyno FIT mewn gofal sylfaenol.

 

Nid yw cyflwyno FIT mewn gofal sylfaenol yn ymwneudâ'r rhaglen sgrinio coluddion. Mater i'r Cynllun Gweithredu Endosgopi Cenedlaethol a'i Fwrdd Rhaglen yw hyn. Mae'nymwneud â phrofi pobl sy'n mynd at eu meddyg teulu gyda symptomau sy'n awgrymu clefyd y colon a'r rhefr. O fewn y defnydd hwn, mae dwy ffordd wahanol o ddefnyddio FIT. Y cyntaf yw gweithredu canllaw DG30 gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a

Gofal (NICE). Mae DG30 yn ymwneud ag atgyfeirio achosion lle’r amheuir canser y colon a'r rhefr mewn pobl heb waedu rhefrol,sydd â symptomau anesboniadwy, ond nad ydynt yn bodloni'r meini prawf ar gyfer atgyfeiriad fel rhan o'r llwybr lle'r amheuir canser. Mae'n offeryn ychwanegol i helpu meddygon teulu i ddelio â chleifion nad ydynt yn bodloni'r meini prawf ar gyfer atgyfeirio lle'r amheuircanser. Bellach, mae mynediad gofal sylfaenol i FIT er mwyngweithredu DG30 wedi ei gyflawnimewn chwech o'r saith bwrdd iechyd. Mae disgwyl i'r seithfed bwrdd iechyd roi hyn ar waith erbyn Ebrill 2023.

 

Yr ail ddefnydd o FIT mewn gofal symptomatig yw ei botensial i frysbennu atgyfeiriadau ar gyfer achosion lle'r amheuir canser y colon a'r rhefr. Mae canllaw NG12 NICE yn disgrifio'r meini prawf ar gyfer atgyfeirio gyfer cleifion lle'r amheuir canser y colon a'r rhefr. Bydd yr atgyfeiriad yn cael ei frysbennu gan wasanaethau gastroberfeddol ac yn y rhan fwyaf o achosion bydd y claf yn cael colonosgopi. Mae tua 2,600 o bobl y mis yn cael eu hatgyfeirio ar y llwybr hwn o ofal sylfaenol ond dim ond tua 5% fydd yn cael eu trin am ganser y colon a'r rhefr. Mae tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn awgrymu y gall cynnal prawf FIT helpu i haenu'r atgyfeiriadau hyn yn ôl risg; gan helpugwasanaethau i flaenoriaethu'r rhai sy’n cael prawf FIT positif ac o bosibl osgoi colonosgopi ymhlith y rhai sydd â risg isel. Bellach, gall pob bwrdd iechyd yng Nghymru ddarparu FIT fel dull brysbennu yn y llwybr canser ar gyfer canser y colon a'r rhefr.

Text Box: 1. A allwch chi roi diweddariad ar gynnydd o ran rhoi’r cynllun gweithredu endosgopi cenedlaethol ar waith, gan gynnwys:
 
 e. I ba raddau y mae gwaith yn digwydd i fynd i'r afael â materion gweithlu:
 
 i. gan gynnwys manylion y byrddau iechyd sydd ag achrediad JAG, a
 ii. y rhesymau pam nad yw rhai unedau endosgopi yng Nghymru wedi cael yr achrediad o hyd.

 

O ran y gweithlusy'n gallu cynnalgastrosgopi, colonosgopi, a cholonosgopi sgrinio,mae hyn yn parhau i fod yn her sylweddol ac mae'r pandemig wedi amharu ar gynlluniau.

Lluniwyd cynllun ar gyfer datblygu rhaglen hyfforddi endosgopi genedlaethol, sy'n cynnwys cydnabyddiaeth o ddeg maes hyfforddi(i bob grŵp staffio) o fewn endosgopiac mae gwaith ar y gweill i ddechrau datblygu'r pecynnau hyfforddi o fewn y rhain. Mae Grŵp Rheoli Addysg a Hyfforddiant (ETMG) bellach wedi'i sefydlu i gefnogi'r datblygiadau hyn. Bydd yr ETMG yn canolbwyntio ar hyfforddi a datblygu'r gweithlu presennol a gweithlu’r dyfodol.

Mae Tîm Gweithlu yr NEP yn gweithio gyda byrddau iechyd i gwblhau eu cynlluniau gweithlu lleol ar gyfer endosgopi er mwyn llywio cynlluniau rhanbarthol a chenedlaethol. Mae ymgyrch farchnata yn cael ei datblygu gyda byrddau iechyd i godi proffil endosgopi a chynorthwyo gyda recriwtio. Mae proffiliau rôl cenedlaethol ar gyfer endosgopyddion clinigol wedi'u paratoi er mwyn safoni telerau, amodaua thâl. Mae dadansoddiad o gyfraddau cadw yn y gweithlu endosgopi ar y gweill, mae saith endosgopydd clinigol wedi cwblhau hyfforddiant, ac mae tair swydd hyfforddi arall wedi'u llenwi i ddechrau ym mis Medi eleni.

 

Mae achredu unedau endosgopi gan y Grŵp Cynghori ar y Cyd ar Endosgopi gastroberfeddol yn cynnwys asesiad cyfannol o ansawdd, perfformiad, ac amgylchedd uned. Nid yw'n ymwneud yn benodol â gweithlu uned, er bod ganddo gydrannau'n ymwneud â'r gweithlu. Mae'n berthnasol i unedau endosgopi unigol o fewn ysbytai yn hytrach na'r bwrdd iechyd. Ar hyn o bryd, mae pum uned wedi'u hachreduac mae 16 uned (dwy ohonynt yn unedau pediatrig ar wahân yn yr un ysbytai â gwasanaethau oedolion) sydd ddim wedi'u hachredu. Cyhoeddir y wybodaeth hon yn: JAG (thejag.org.uk)

 

Mae achrediad JAG yn hynod heriol i'w gyflawni a'i gynnal. Mae gan fyrddau iechyd heriau sylweddol i'w goresgyn, gan gynnwys adfer perfformiad o ran amseroedd aros, cyfyngiadau ystadau a safonau diheintio. Agwedd hanfodol ar achrediad yw casglu’r dystiolaeth berthnasol, sy'n sylweddol ac yn gofyn am gryn dipyn o amser prin staff i'w choladu. Mae'r Cynllun Gweithredu Endosgopi Cenedlaethol wedi gwneud hyn yn ganolbwynt allweddol i'w waith, gan gynnwys ffrwd waith ac is-grŵp penodol. Bwriad y Cynllun oedd sicrhau achrediad ar gyfer hanner yr holl unedau erbyn hanner ffordd drwy'r cynllun (31 Mawrth 2021). Mae'r rhaglen genedlaethol wedi darparu cefnogaeth sylweddol i fyrddauiechyd, gan gynnwys comisiynu ymweliadau cyn achredu gan JAG; darparu gweithdai achredu, cyngor arbenigol a thempledi tystiolaeth; cymorth wedi'i dargedu i'r rhai sydd agosaf at gyflawni achrediad.

 

Mae wyth uned ychwanegol wedi cael eu hasesu fel rhai sy'n ddigon agos i wneud cais i gael eu hachredu. Mae pedair o'r rhain yn gofyn am ymdrech ddygn gan dimau lleol i ymgymryd â'r broses achredu. Mae'r pedair arall hefyd angen buddsoddiad cyfalaf i newid isadeiledd. Yn anffodus, mae'r pandemig wedi gwaethygu'n sylweddol yr her o ran y galw sy'n wynebu unedauendosgopi. Bu cynnyddsylweddol iawn yn nifer y cleifion sy'n aros am driniaethau ac y mae perygl y bydd eu clefyd yn gwaethygu. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio trwy gydol y pandemiggyda byrddau iechyd i ganolbwyntio ar leihau'r risg i gleifion drwy leihau'r rhestrau aros hyn a gwella prydlondeb triniaethau. O ganlyniad, mae'r gwelliannau mewn seilwaith a darparu tystiolaeth sy'n ofynnol i sicrhau achrediadymhlith yr wyth uned hyn wedibod yn llai o flaenoriaeth. Bydd hyn yn arwain at oedi a'r posibilrwydd y bydd llai na'r disgwyl o unedau yn cyflawni achrediad yn ystod cyfnod sefydlogi'r cynllun gweithredu. Bydd gennym well darlun o gynnydd o ran achredu erbyn dechrau 2023, yn dilyn y rownd gyntaf o ymweliadau achredu sydd wedi'u trefnu.

 

Text Box: 1. A allwch chi roi diweddariad ar gynnydd o ran rhoi’r cynllun gweithredu endosgopi cenedlaethol ar waith, gan gynnwys:
 
 f. Diweddariad ar seilwaith a chyfleusterau gwasanaethau endosgopi.

 

Mae angen buddsoddiad sylweddol o ran seilwaith ar unedau endosgopi ledled Cymru er mwyn bodloni’r galw a chydymffurfio â safonau achredu; maes sydd angenffocws arbennig yw dihalogi. Mae’r Rhaglen Genedlaethol yn gweithio’n agos gyda chydwasanaethau i sicrhau bod archwiliadau blynyddol o wasanaethau dihalogi yn digwydd a bod unrhyw bryderon yn cael eu huwchgyfeirio ar fyrder. Fodd bynnag, mae’r gwaith o wneud gwelliannau i gyfleusterau yn cael ei gymhlethu gan brinder argaeledd cyllid cyfalaf, cynllun yr ysbytai presennol a’r trefniadau cytundebol sydd ar waith ar gyfer ysbytai penodol fel y Tywysog Philip a Nevill Hall. Serch hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo dau achos busnes y GIG am fuddsoddiad cyfalaf sydd wedi eu cyflwyno yn ystod oes y cynllun gweithredu. Bydd yr achosion busnes cyfalaf hyn yn adnewyddu a chynyddu capasiti theatr o bedair i chwech yn Ysbyty Athrofaol Llandochau yng Nghaerdydd; yn ogystal ag o ddwy theatr i bedair yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd. Mae disgwyl rhagor o achosion busnes cyfalafyn y blynyddoedd nesaf i adnewyddu unedau yn unol â safonauac i ehangu capasiti theatrau mewn ysbytai. Mae ystyriaeth bellach yn cael ei roi i ddichonoldeb unedau ychwanegol fel rhan o gynlluniau adfer ehangach a’r potensial ar gyfer canolfannau diagnostig newydd.

 

Un datblygiad nodedig fu integreiddio adroddiadau endosgopi o fwrdd iechyd cyntaf i Borth Clinigol Cymru gyfan. Bydd hyn yn cael ei gyflwyno ar draws Cymru, gan olygu y bydd unrhyw glinigwr, unrhywle yng Nghymru, yn gallu cael gafaelar adroddiadau endosgopier mwyn cefnogi rheoli claf, waeth ble mae’n cael ei drin yng Nghymru. Yn ogystal, mae chwech o’r saith bwrdd iechyd bellach yn llwytho data i’r Gronfa Ddata Endosgopi Genedlaethol, a fydd yn caniatáu meincnodi gwell o ran ansawdd gofal ar draws Cymru.

Mae’r bwrddiechyd terfynol yn y broseso gaffael system adrodd endosgopi sy’n cydymffurfio â’r gronfa ddata.

Text Box: 2. Amlinellwch yr effaith y mae COVID-19 wedi’i chael ar gyflawni’r cynllun gweithredu endosgopi cenedlaethol ac unrhyw oblygiadau y mae hyn
 wedi’u cael ar ganlyniadau i gleifion.

 

Byrddau iechydfydd yn dal yn gyfrifolam ddarparu gwasanaethau endosgopi. Mae’r cynllun gweithredu cenedlaethol a bwrdd y rhaglen wedi eu rhoi ar waith i gefnogi byrddau iechyd i wella capasiti, safonau a pherfformiad. Effaith fwyaf arwyddocaol y pandemig ar y rhaglen

fu lleihau capasiti’r byrddau iechyd i ymateb i’r gefnogaeth sydd ar gael gan y rhaglen genedlaethol. Er enghraifft, mae’r rhaglen genedlaethol wedi cyflwyno cefnogaeth i ymgymryd â’r broses achredu, ond mae byrddau iechyd, yn briodol ddigon, wedi canolbwyntio eu capasitiar ddelio â’r ôl-groniad o driniaethau a achoswyd gan y pandemig. Mae’r GIG wedi canolbwyntio ar hyn oherwydd dyma’r ffordd bwysicaf o leihau risg ymhlith y rhai sy’n aros am driniaeth, a dyma’r drefn rwyf wedi gofyn iddynt ei dilyn fel rhan o’r cynllun adfer. Rwy’n dal wedi ymrwymo i sicrhau achrediad unedau, ond mae’n rhaid i mi gydnabod y newid mewn amgylchiadau. Arweiniodd y pandemig at saib byr mewn gweithgaredd endosgopi nad yw’n weithgarwch brys, a hynny’n ymateb i gyfarwyddyd gan gyrff proffesiynol. Mae endosgopi gastroberfeddol uwch yn weithdrefn sy’n cynhyrchu aerosol ac mae’n hollol deg bod rhagofalon ychwanegol wedi’u rhoi ar waith.


Gwelwyd twf sylweddol yn y rhestr aros, hyd yn oed wedi i wasanaethau ailddechrau, oherwydd absenoldeb staff a llai o gynhyrchiant yn sgil gwellrheolaethau atal heintiau.

Yr effaithgyffredinol yw bod rhestrau aros wedi cynyddu’nsylweddol, ac mae ymdrechion taer ar waith i’w gostwng unwaith eto.

 

Y brif effaith ar gleifion yw eu bod yn gorfod aros yn hirach nag o’r blaen. Mae rhai yn aros yn hirach nag sy’n ofynnol o ran y targedau oherwydd bod cymaint mwy o gleifion yn cael eu hatgyfeirio a bod capasitiwedi’i gyfyngu. Mae hyn yn debygol o arwain at raddau uwch o ofid a phryder ymhlith y rhaisy’n aros. Fodd bynnag, er ei bod yn bosibl, neu hyd yn oed yn debygol, y bydd effaith ar ganlyniadau canser y colon a’r rhefr, mae’n rhy fuan i nodi union natur yr effaith honno. Mae’n cymryd sawl blwyddyn i fesur, cofnodi ac adrodd cyfraddau marwolaethau a goroesi wedi blwyddyn neu bum mlynedd. Mae effaith y pandemig ar y rhaglengyffredinol yn debygolo arwain at oedi o tua dwy flyneddo ran cyflawni prif nodau’r rhaglen, er enghraifft, wrth greu digon o gapasiti craidd i ddiwallu’r angen ac o ran achredu unedau. Mae hefyd yn bwysig cydnabod bod rheidrwydd erbyn hyn i reoli adferiad gwasanaethau endosgopi, a’r risg ynghlwm wrth y llwybrau cleifion hynny, ochr yn ochr â lefelau risg uwch na’r arfer ac oedi gyda bron pob gwasanaeth gofal wedi’i gynllunio arall.

Mae hwn yn gyd-destun cwbl wahanol i’r cyd-destun pan gyflwynwyd y Cynllun Gweithredu Endosgopi Cenedlaethol gyntaf.

Text Box: 3. I ba raddau y mae gwasanaethau endosgopi yn cael eu blaenoriaethu yn y cynllun adfer gofal wedi’i gynllunio? Beth yw’r amserlenni a’r targedau ar gyfer gwella (gan gynnwys cynlluniau i fynd i’r afael â’r ôl-groniad o ran amseroedd aros ar gyfer diagnosteg, yn ogystal â chleifion risg uchel sydd angen triniaethau endosgopig gwyliadwriaeth barhaus (cynllunio galw a chapasiti).

 

Ar dudalen 40 o’r Rhaglen i Drawsnewid a Moderneiddio Gofal a Gynlluniwyd, mae’n disgrifio sut mae dyraniadrheolaidd o £170 miliwn ychwanegol i gefnogi adferiadgofal a gynlluniwyd yn cynnwys gweithredu argymhellion y Rhaglen Endosgopi Genedlaethol.

Cymeradwyais yr argymhellion hyn, a chadarnhawyd hyn yn ysgrifenedig gan fy swyddogion i’r byrddau iechyd ym mis Hydref 2021. Maent yn cynnwys:

 

·         Mabwysiadu mesurau cynhyrchiant ac effeithlonrwydd yn unol ag argymhelliad y Rhaglen Endosgopi Genedlaethol er mwyn galluogi’r allbwn gorau gyda’rcapasiti presennol a gan reoli’r boblogaeth cleifion ar sail risg.

·         Dechreuodd y bwrdd iechyd weithgaredd ychwanegol, a’i gyflwynoar ffurf mentrau rhestr aros, darparu’n fewnol a darparu gan gyflenwyrallanol; gan gynnwys rhentu unedau symudol wedi’u staffio am dymor byr.

·         Ystyried achosion busneswedi’u sbarduno gan fyrddau iechydar gyfer theatrau endosgopi ychwanegol, parhaol ar ystâd bresennol y GIG.

·         Caffael contractau gwasanaeth wedi’u rheoli er mwyn darparuunrhyw ddiffyg mewn capasiti theatrau endosgopi, a darparu hyn mewn unedau rhanbarthol.


Mae’r Rhagleni Drawsnewid a Moderneiddio Gofal a Gynlluniwyd yn nodi ein huchelgeisiau ar gyfer adfer gofal wedi’i gynllunio, gan gynnwys diagnosteg, ac mae’n ymrwymo i’r canlynol:

 

·         Cyflymu profi ac adrodd diagnostig i wyth wythnosac i 14 wythnos ar gyfer ymyriadau therapi erbyn Gwanwyn 2024

 

Bydd yr effaith gyffredinol ar restrau aros yn cael ei fonitrodrwy gyfarfodydd atebolrwydd rheolaidd gyda byrddau iechyd. Bydd adroddiad ar y mesur hwn yn: StatsCymru

 

Mae fy ymrwymiad yn parhau i gyflawni nodau gwreiddiol y Cynllun Gweithredu Endosgopi Cenedlaethol ac rwy’n hyderus mai’r rhain yw’r dyheadau cywir o hyd i sicrhaubod pobl yng Nghymru’n cael gafael ar weithdrefnau diagnostig endosgopig amserol ac o ansawdd uchel. Byddant yn bwysig hefyd o ran cadw a denu’r gweithlu clinigol. Mae heriau sylweddol o ran cynnydd yn sgil y pandemig, ac mae hyn yn amlwg wedi arwain at oedi.

 

Er hynny, wrth inni ddod allan o’r pandemig, bydd cynnydd yn y gwasanaeth clinigol hwn yn digwydd unwaith eto, a byddwn yn chwilio am gyfleoedd pwysigi gyflymu’r gwaithhwn ochr yn ochr â’n dull ehangach o ymdrin â gofal diagnostig.

 

Gobeithio y bydd yr wybodaethhon o gymorth i’r Pwyllgor. Yn gywir

 

Text Box:

 

Eluned Morgan AS/MS

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Minister for Health and Social Services